Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

Papur 1: Bwrdd yr Iaith Gymraeg

 

1. A oes angen Bil i ddarparu ar gyfer defnyddio’r iaith Gymraeg a’r Saesneg yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol a chan Gomisiwn y Cynulliad wrth arfer ei swyddogaethau? Os felly, pam? Os nad oes, pa ddewisiadau eraill ydych yn eu cynnig?

 

Mae’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer yr iaith Gymraeg wedi newid yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.  Nid yw’r Cynulliad na Chomisiwn y Cynulliad wedi eu henwi yn y Mesur am resymau cyfansoddiadol.  Gyda dyfodiad Comisiynydd y Gymraeg a chadarnhau statws y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru, mae’n anorfod fod angen fframwaith cyfreithiol diwygiedig ar gyfer y Cynulliad a hynny ar fyrder. 

 

2. A ydych yn credu y bydd y Bil yn cyflawni diben y Bil fel y cyfeirir ato yng nghwestiwn 1 a pharagraffau 4.1 i 4.4 ar dudalen 6 o’r Memorandwm Esboniadol? Rhowch esboniad am eich ateb.

 

Credwn fod y Bil yn cyflawni’r diben fel y nodwyd ar dudalen 6 y Memorandwm Esboniadol.  Mae’r Bil yn nodi’r cyd-destun deddfwriaethol ac yn gwneud yn glir mai’r Gymraeg a’r Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad a bod gan unigolion yr hawl i ddefnyddio’r naill iaith neu’r llall wrth ddelio gyda’r Cynulliad.  Mae hefyd yn amlinellu yr hyn sydd angen ei gynnwys yng Nghynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad. 

 

3. Mae Adran 1(2) o’r Bil yn disodli adran 35(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac yn cyflwyno pedair darpariaeth newydd mewn cysylltiad â thrin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal yn y Cynulliad. Beth yw eich barn am y darpariaethau hyn?

 

Croesawn y darpariaethau yn adran 1(2) sy’n cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg yn y Cynulliad a’r ymrwymiad diamwys sy’n rhoi hawl i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymwneud â’r Cynulliad. 

 

4. Mae Adran 2(2) yn cyflwyno naw is-baragraff newydd i baragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (a gaiff eu rhestru fel is-baragraffau (3) i (11)). Maent yn cynnwys darpariaethau manwl sy’n diffinio dyletswyddau’r Comisiwn o ran defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn y Cynulliad, ac mae esboniad arnynt ym mharagraffau 12.1 i 12.12 ar dudalennau 22 i 24 o’r Memorandwm Esboniadol.

 

Beth yw eich barn am y darpariaethau hyn?

 

Ar y cyfan, croesawn y darpariaethau a nodwyd yn yr adran hon yn arbennig cymalau 7 a 8 sy’n ymateb i sylwadau’r Bwrdd ar yr ymgynghoriad yn ystod hydref 2011.  Credwn fod y cymalau hyn yn rhoi sylfaen gadarnach i atebolrwydd Comisiwn y Cynulliad wrth weithredu’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol.  Nodwn er hynny nad oes cyfeiriad penodol at Gofnod y Trafodion yn y Bil.  Nid ydym wedi ein hargyhoeddi gan y rhesymau yn erbyn gwneud hynny a gynhwysir yn y Memorandwm Esboniadol.  Credwn gallai cyfeiriad at y Cofnod yn y Bil roi sicrwydd i’r cyhoedd na fyddai’r math o benderfyniad a wnaethpwyd gan y Comisiwn yn ystod y trydydd Cynulliad i ddiweddu’r cyfieithiad llawn yn digwydd eto.

 

Wrth nodi eich barn, efallai y byddwch am ystyried y pwyntiau a ganlyn:

 

(i) Mae is-baragraff (4) newydd yn nodi fod yn rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn manylu ar y camau y mae’n bwriadu eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan is-baragraff newydd (3).

 

Credwn fod y dyletswyddau statudol a rhoddir ar y Comisiwn i fabwysiadu a chyhoeddi cynllun ieithoedd swyddogol yn briodol.  Er hynny credwn fod angen ystyriaeth bellach er mwyn sicrhau atebolrwydd y Comisiwn wrth weithredu’r cynllun hwn.  Yn ein hymateb i’r ymgynghoriad ar y Bil drafft fe nodwyd: ‘Os nad yw’r Comisiwn felly yn atebol i reoleiddiwr annibynnol megis Comisiynydd y Gymraeg, bydd angen trefniadau atebolrwydd cadarn ac eglur yn y Cynulliad.  Er enghraifft cynigiwn fod pwyllgor o aelodau yn cael cyfrifoldeb am graffu dros gyflawniad y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog a bod dyletswydd ar y Comisiwn i adrodd i’r pwyllgor.  Dylai’r pwyllgor hefyd allu galw ar dystiolaeth a barn allanol.’

 

A ydych yn credu ei bod yn briodol bod dyletswyddau’r Comisiwn yn cael eu darparu drwy Gynllun Ieithoedd Swyddogol, ac os felly, pam? Os nad ydych, pa ddewis arall ydych yn ei awgrymu?

 

Fel eglurir yn ein sylwadau i gwestiwn 1, credwn fod darparu drwy Gynllun Ieithoedd Swyddogol yn briodol i’r Comisiwn o dan yr amgylchiadau.  Er hynny rhaid cadw mewn cof y risg am ddryswch ymysg y cyhoedd wrth i gyrff eraill fynd ati i weithredu cyfundrefn o safonau iaith.

 

(ii) Mae is-baragraff (5) newydd yn ymdrin â rhai o’r materion y byddai’n rhaid i’r Cynllun fynd i’r afael â hwy, sef darparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd a chyhoeddi dogfennau’n ddwyieithog.

 

Beth yw eich barn am y ddarpariaeth hon?

 

Dim sylwadau pellach.

 

(iii) mae is-baragraff (6) newydd yn darparu nad yw’n ofynnol o reidrwydd i bob gair a siaredir neu a ysgrifennir yn un o’r ieithoedd swyddogol gael ei gyfieithu neu’i gyfieithu ar y pryd.

 

Beth yw eich barn am y ddarpariaeth hon?

 

Nid yw barn y Bwrdd ar y cymal hwn wedi newid ers ein hymateb i’r ymgynghoriad yn hydref 2011.  Deallwn mai diben y cymal yw rhoi hyblygrwydd i’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ddiffinio’r union wasanaeth a gaiff ei ddarparu.  Er bod yr egwyddor yn rhesymol, mae risg y gellid ei ddehongli fel cymal sy’n golygu na fydd yn rhaid i’r Comisiwn ddarparu Cofnod y Trafodion yn gwbl ddwyieithog.  Credwn y gellir goresgyn hynny drwy gynnwys cymal arall yn y Bil yn egluro y bydd o leiaf Cofnod trafodion cyfarfodydd llawn y Cynulliad yn cael ei gyhoeddi’n gwbl ddwyieithog. 

 

(iv) Mae is-baragraff (7) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynllun esbonio sut y dylid ymdrin â chwynion.

 

Beth yw eich barn am y ddarpariaeth hon?

 

Croesawn yr ymrwymiad hwn sy’n mynd i’r afael â sylwadau a wnaethpwyd gan y Bwrdd yn ei ymateb i’r ymgynghoriad yn hydref 2011.

 

(v) mae is-baragraff (9) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynllun gael ei adolygu o leiaf unwaith bob pum mlynedd.

 

Beth yw eich barn ynghylch pa mor aml yr adolygir y Cynllun?

 

Credwn fod y ddarpariaeth yn rhesymol.

 

(vi) Mae is-baragraff (10) newydd yn amlinellu’r broses ar gyfer mabwysiadu Cynllun.

 

A yw’r broses yn eglur? Rhowch esboniad am eich ateb.

 

Credwn fod y broses a amlinellir yn rhesymol.  Mae’r ddarpariaeth newydd o dan y Bil yn gosod dyletswydd ar Aelodau’r Cynulliad i graffu a monitro ar gynnwys y Cynllun a gweithrediad y Cynllun.  Bydd angen i staff y Cynulliad sicrhau fod Aelodau’n llwyr ymwybodol o’u cyfrifoldebau a’r ddyletswydd fydd arnynt yn sgil absenoldeb corff rheoleiddio allanol yn y broses.  

 

A oes angen cyfeiriad penodol at unrhyw ymgynghori? Rhowch esboniad am eich ateb.

 

Dim sylwadau pellach.

 

(vii) Mae is-baragraff (10)(b) newydd yn cyfeirio’n benodol at Gomisiwn y Cynulliad yn ystyried sylwadau a wnaed ynghylch y Cynllun gan (i) y cyhoedd a (ii) y Cynulliad.

 

A ddylai unrhyw berson neu sefydliad arall yn benodol gael eu cynnwys yn y rhestr?

Os felly, pwy?

 

Mae’r Cynllun yn ymrwymo Comisiwn y Cynulliad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar unrhyw adolygiad o’r Cynllun.  Credwn fod hynny’n rhesymol.

 

5. Yn gyffredinol, a ydych o’r farn bod cydbwysedd cywir rhwng y gofynion penodol sydd wedi’u cynnwys ar wyneb y Bil a’r darpariaethau sydd i’w cynnwys yn y Cynllun? Rhowch esboniad am eich ateb.

 

Ydyn, ac eithrio ein sylwadau i gwestiwn pedwar uchod. 

 

6. Beth yw’r rhwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil (os o gwbl) ac a yw’r Bil yn eu hystyried?

 

Dim sylwadau pellach.

 

7. Beth yw eich barn, os o gwbl, am oblygiadau ariannol y Bil? Wrth ateb y cwestiwn hwn mae’n bosibl y byddwch am ystyried Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol), sy’n amcangyfrif costau a manteision gweithredu’r Bil.

 

Dim sylwadau pellach.

 

8. Ar 3 Awst 2011 cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad Fil Drafft ar gyfer ymgynghori arno. Newidiwyd y Bil gan y Comisiwn i ystyried yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad.  Mae paragraff 6.18 ar dudalen 11 o’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio’r newidiadau a wnaed. Pa sylwadau, os o gwbl, sydd gennych am y newidiadau hynny?

 

Cefnogwn y newidiadau sydd wedi eu gwneud gan iddynt gyd fynd, ar y cyfan, gyda sylwadau’r Bwrdd i’r ymgynghoriad. 

 

9. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill am adrannau penodol o’r Bil?

 

Dim sylwadau pellach.

 

Cwestiynau am y Cynllun Drafft

 

10. Beth yw eich barn am y Cynllun Ieithoedd Swyddogol Drafft, sy’n gynwysedig fel Atodiad B i’r Memorandwm Esboniadol?


Ar y cyfan credwn fod y Cynllun yn cefnogi uchelgais y Cynulliad o fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. 

Credwn fod y drafft diweddaraf yn mynd i’r afael i raddau helaeth gyda’r sylwadau a gyflwynwyd gan y Bwrdd i’r ymgynghoriad.  Croesawn er enghraifft yr esboniad newydd ynglŷn â’r angen am ddeddfwriaeth arbennig ar gyfer y Cynulliad.  Croesawn hefyd y weledigaeth glir a nodir yn y cyflwyniad a chroesawn yr esboniad ynglŷn â’r defnydd o dechnoleg gwybodaeth wrth weinyddu’n fewnol ac wrth gyfieithu.  Yn olaf nodwn fod adran newydd a manwl ynghylch y broses o ddelio â chwynion o dan y Cynllun. 

Nid yw’r Comisiwn wedi ymateb i holl sylwadau’r Bwrdd ar y Cynllun yn ystod yr ymgynghoriad, megis:

1) Cyfeiriad at ymrwymiad y Cynulliad wrth ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol.           

2) Ymrwymiad i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i swyddogion sydd eisoes yn gyflogedig.

3) Cyfeiriad at sut fydd y Comisiwn yn meincnodi ei hunan yn erbyn cyrff eraill sydd yn darparu yn unol â’r gyfundrefn safonau. 

4) Ymrwymiad cadarnach tuag at ddelwedd gyhoeddus y sefydliad; mae’r geiriau ‘ceisio cyflenwi’ yn parhau.

Sylw arall gan y Bwrdd na chafodd ei ystyried, yw’r sylw ynglŷn â chyfrifoldebau ehangach y Comisiwn a’r pwyllgorau wrth lunio polisïau a deddfwriaeth.   Teimlwyd bod angen ymdrin â hynny yn y Cynllun er mwyn sicrhau trefn asesu effaith unrhyw bolisïau neu ddeddfwriaeth newydd ar y Gymraeg. Rhaid sicrhau bod pob polisi a deddfwriaeth yn cael eu llunio yn unol â’r egwyddor sylfaenol y dylid trin ieithoedd swyddogol y Cynulliad ar sail cydraddoldeb.   

Er hynny, credwn mai’r diffyg mwyaf yn y Cynllun fel mae’n sefyll yw absenoldeb unrhyw gyfeiriad at gynllun gweithredu a thargedau er mwyn mesur cynnydd.  Bydd angen cyfundrefn o’r fath er mwyn gweithredu’r Cynllun yn effeithiol.  Mae’n debyg fod gwaith ar fynd i ddatblygu cynllun gweithredu a gallwn ddeall pam na fyddai’n ymarferol i ddilyn yr un broses fabwysiadu a’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ei hun, ond dylid o leiaf cyfeirio ato yn y Cynllun.

11. Hefyd cyhoeddodd y Comisiwn y Cynllun drafft ar gyfer ymgynghori arno, gyda’r Bil drafft, ym mis Awst 20113. Newidiwyd y Cynllun gan y Comisiwn i ystyried yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad. 4 Mae paragraff 6.19 ar dudalen 11 o’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio’r newidiadau a wnaed. Pa sylwadau, os o gwbl, sydd gennych am y newidiadau hynny.

Dim sylwadau pellach.